Catrin o Ferain

Mam Cymru

H
Helen Williams-Ellis

Ganed Catrin o Ferain yng ngogledd-ddwyrain Cymru ym 1535, mewn cyfnod  hanesyddol gythryblus. Bu’n rhaid iddi droedio’n gyfrwys ac yn ofalus gydol ei hoes. Yn aeres gyfoethog o’i chrud i’w bedd, priododd yn dda, a’i blaenoriaeth oedd gwarchod ei hetifeddiaeth. Gyda’i hail ŵr Rhisiart Clwch, teithiodd Catrin yn helaeth ar draws cyfandir Ewrop, ac fe baentiwyd y darlun enwog ohoni pan oedd yn Antwerp. Bu’n weddw deirgwaith, ond tristwch mwyaf ei bywyd oedd y cyhuddiad yn erbyn ei mab hynaf o fod yn fradwr, a’i farwolaeth erchyll ar grocbren Tyburn ym 1587. Bum mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd Catrin hithau wedi’i chladdu. Yn ystod ei hoes, defnyddiodd Catrin y gyfundrefn farddol i hyrwyddo ei henw da, a dadlennol a difyr yw’r dyfyniadau sy’n britho’r cofiant. Rhyfeddol hefyd yw’r dystiolaeth sy’n dangos y cyfeillgarwch dwfn rhyngddi a’r bardd Wiliam Cynwal, ac mae’r gyfrol arloesol hon yn cyplysu tystiolaeth weledol y cyfnod modern cynnar gyda barddoniaeth beirdd yr uchelwyr.

Publication

2026

Pages

272

Format

Epub

Publisher

Gwasg Prifysgol Cymru

Excerpt

EPUB

Reviews (0)

There are no reviews for this book yet.

0 reading 0 read 0 want to read 0 dropped 0 favorites